Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 2 Tachwedd 2016

Amser y cyfarfod: 13.30
 


28(v4)  

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

(15 munud)

Gweld y Cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

Cwestiwn Brys

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:

Dawn Bowden (Merthyr Tydfil and Rhymney): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r cyhoeddiad bod 350 o swyddi mewn perygl oherwydd penderfyniad Grŵp 2 Sisters Food i symud ei holl wasanaethau manwerthu o Ferthyr Tudful i Gernyw? (EAQ(5)0065(EI)

 

</AI3>

<AI4>

3       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI4>

<AI5>

4       Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau

(5munud)

NDM6130 Elin Jones (Ceredigion):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Neil McEvoy (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru).
 
NDM6131Elin Jones (Ceredigion):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

</AI5>

<AI6>

5       Dadl Plaid Cymru

(60 munud)

NDM6129 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo Cytundeb Paris Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd fel cam ar y llwybr tuag at Gymru ddi-garbon.

2. Yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i fynd â'r neges hon i'r Gynhadledd ar Newid Hinsawdd ym Marrakech ym mis Tachwedd 2016.

'Cytundeb Newid Hinsawdd Paris'

 

</AI6>

<AI7>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

(60 munud)

NDM6126 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi methu â chyflawni ei huchelgais yn rhaglen lywodraethu 2011 o sicrhau bod pob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru yn gallu cael band eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015.

2. Yn cydnabod mai gan Cymru y mae'r cyfartaledd uchaf o bobl ym Mhrydain nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo llythrennedd ddigidol a gosod targed mwy uchelgeisiol ar gyfer defnyddio band eang.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) gweithio gydag Ofcom, Llywodraeth y DU a gweithredwyr rhwydweithiau i sicrhau mynediad cyffredinol i fand eang cyflym a signalau ffonau symudol;

(b) diwygio'r system gynllunio i hyrwyddo buddsoddi mewn seilwaith telathrebu a defnyddio rhwydwaith;

(c) ystyried y cynnydd a wnaeth Llywodraeth yr Alban drwy ei chynllun gweithredu ffonau symudol a chyflwyno cynllun i ddarparu signalau ffonau symudol y genhedlaeth nesaf mewn ardaloedd lle y methodd y farchnad; a

(d) darparu amserlen ar gyfer ei hymrwymiad i gaffael contract i ymestyn mynediad i fand eang cyflym iawn i bob eiddo yng Nghymru.

'Rhaglen Lywodraethu 2011-16 Llywodraeth Cymru'

'Scottish Government Mobile Action Plan'

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1.  Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i gyflawni o safbwynt gweithredu cynllun Cyflymu Cymru, sef cynllun sydd wedi galluogi dros 610,000 o eiddo ar draws Cymru i fanteisio ar fand eang cyflym ac a fydd yn galluogi 100,000 o safleoedd ychwanegol i fanteisio arno erbyn i’r prosiect ddod i ben yn 2017.

2. Yn nodi cynnydd Allwedd Band Eang Cymru a’r prosiect a wnaeth ei ragflaenu sydd wedi galluogi dros 6,500 o eiddo ar draws Cymru i fanteisio ar fand eang drwy wahanol dechnolegau arloesol.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd band eang cyflym a chysylltedd digidol i fusnesau, cymunedau a’r economi ym mhob rhan o Gymru ac yn nodi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gynnig band eang dibynadwy a chyflym i bob eiddo yng Nghymru.

4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i:

a) cydweithio ag Ofcom, Llywodraeth y DU a gweithredwyr y rhwydwaith er mwyn cynnig mynediad at fand eang cyflym a signal ffonau symudol ar draws Cymru;

b) diwygio Hawliau Datblygu a Ganiateir o fewn y system gynllunio er mwyn hybu buddsoddiad yn y seilwaith telathrebu ac adleoli’r rhwydwaith;

c) pwyso a mesur yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi’i gyflawni drwy ei chynllun gweithredu ffonau symudol wrth ddatblygu cynigion yng Nghymru; a

d) cyhoeddi rhagor o wybodaeth am estyn mynediad at fand eang dibynadwy a chyflym i bob eiddo yng Nghymru.

'Rhaglen Lywodraethu'

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu ddad-ddethol]

Gwelliant 2 . Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

'archwilio sefydlu ac ariannu cynllun dal popeth i alluogi awdurdodau lleol i ariannu cynllun wedi'i deilwra er mwyn sicrhau nad oes yr un cartref na busnes yng Nghymru heb y gallu i gysylltu â band eang y genhedlaeth nesaf.'

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn credu bod band eang digonol yn hanfodol ar gyfer masnach, byw'n iach, llai o effaith amgylcheddol, rhyngweithio cymdeithasol, addysg a hawliau dynol.

 

</AI7>

<AI8>

7       Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

(60 munud)

NDM6128
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mis Tachwedd yn fis ymwybyddiaeth canser yr ysgyfaint.

2. Yn gresynu mai dim ond 6.6 y cant o gleifion Cymru a gaiff ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint sydd yn dal yn fyw bum mlynedd ar ôl y diagnosis a bod Cymru yn llusgo y tu ôl i weddill y DU ac Ewrop o ran cyfraddau goroesi canser.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) gweithredu i wella cyfraddau pum mlynedd goroesi canser yr ysgyfaint yng Nghymru;

(b) gwella gwasanaethau diagnostig a chyflymu mynediad at brofion diagnostig;

(c) sicrhau gwelliannau i ofal diwedd oes;

(d) sicrhau y caiff anghenion, blaenoriaethau a dewisiadau unigol pobl ar gyfer gofal diwedd oes eu canfod, eu cofnodi, eu hadolygu, eu parchu a'u gweithredu; ac

(e) gwarantu y gall pawb sydd angen gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol gael gafael arnynt.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod y gwelliant sylweddol yng nghyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint am flwyddyn yng Nghymru a’r fenter canser yr ysgyfaint sy’n cael ei darparu fel rhan o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser.

Yn croesawu’r £240m o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd yng Nghymru a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft ddiweddar, gan gynnwys £15m ychwanegol ar gyfer cyfarpar diagnostig a £1m ar gyfer gofal diwedd oes.

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ymhellach a’r bwriad i wneud y canlynol:

a) cyhoeddi diweddariad o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser erbyn diwedd mis Tachwedd 2016 a pharhau i ganolbwyntio ar wella canlyniadau canser yr ysgyfaint;

b) cyhoeddi diweddariad o’r cynllun Gofal Diwedd Oes erbyn diwedd mis Ionawr 2017;

c) parhau i weithio’n agos gyda Chynghrair Canser Cymru i ddatblygu gwasanaethau canser yng Nghymru a gyda hosbisau ar ofal diwedd oes.

'Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser'

'Cyllideb ddrafft 2017-18'

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y ffaith bod nifer cleifion benywaidd canser yr ysgyfaint wedi cynyddu dros draean yn ystod y degawd diwethaf.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
 
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi'r buddsoddiad mewn gwasanaethau diagnostig a gofal diwedd oes a gafodd ei gyflawni gan Blaid Cymru yn y trafodaethau ar gyllideb ddrafft 2017-18, ac yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith i wella'r gwasanaethau hyn.

Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

'gwella mynediad at sgrinio, addysg ac ymwybyddiaeth.'

 

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod pleidleisio

 

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

(30 munud)

NDM6123 Hannah Blythyn (Delyn)

Economi newydd i Ogledd Cymru

'Gwella cydweithredu trawsffiniol a gwneud i ddatganoli weithio ar gyfer sectorau allweddol ledled Gogledd Cymru.'

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 8 Tachwedd 2016

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>